Thursday 21 November 2013

Agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan

Mae diweddariad gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith.



Teithiau o amgylch Llyfrgell Thomas Parry ac arddangosfeydd o lyfrau cyfreithiol prin o Lyfrgell y Brifysgol fel rhan o agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan ar 20 Tachwedd 2013

Roedd hi’n bleser mawr cyfarfod â’r Arglwydd Elystan Morgan, cyn-fyfyrwyr, cyfreithwyr lleol, aelodau o’r Senedd a llawer o bobl eraill yn agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan, cartref newydd Adran y Gyfraith a Throseddeg yn Llanbadarn.

Bracton De Legibus 1569 – un o’r llyfrau cyfreithiol prin o Lyfrgell y Brifysgol yn cael ei arddangos ar gyfer seremoni agoriadol swyddogol Adeilad Elystan Morgan.

Bu’n gyfle perffaith i ddangos Llyfrgell Thomas Parry i’n gwestai, sydd ar bwys Adeilad Elystan Morgan. Mae Llyfrgell Thomas Parry yn cynnwys casgliadau'r gyfraith a throseddeg o hen Lyfrgell y Gyfraith, ac mae’n cynnwys ystafelloedd astudio grŵp, ystafell hyfforddi, ystafell gyfrifiadura ac, wrth gwrs, llyfrgell a chymorth TG wrth law.


Roedd yn bleser cael arddangos rhai o drysorau’r llyfrgell, a oedd yn cynnwys:
Bracton De Legibus 1569. Disgrifiodd Richard Ireland, Hanesydd Cyfreithiol yn Adran y Gyfraith a Throseddeg, y gyfrol hon fel “Argraffiad prydferth o’r unfed ganrif ar bymtheg o De Legibus et Consuetudinibus Angliae Bracton. Lluniwyd y testun hwn yn wreiddiol yn ystod ail chwarter y drydedd ganrif ar ddeg, a dyma, yn y bôn, y traethawd pwysicaf ar gyfraith gwlad a oedd yn datblygu ar y pryd. Mae’r fersiwn argraffedig, a drosglwyddwyd drwy nifer o ddwylo ac sy’n cynnwys anodiadau, yn deyrnged briodol i bwysigrwydd y traethawd.”
Hefyd,
Grotius, Hugo: The most excellent Hugo Grotius his three books treating of the rights of war and peace. Cyfieithwyd i’r Saesneg gan William Evats. Golygwyd gan John Nelham a Thomas Whitfield. Llundain: T. Basset; 1682.
Diolch am y gwahoddiad a diolch i staff y llyfrgell am eu cymorth.

No comments: