Friday, 29 November 2013

Deall yr Ymchwilydd

Rwy’n cynnal prosiect ymchwil i ddeall yn well sut mae Ymchwilwyr yn rhyngweithio ac yn ystyried gwasanaethau’r llyfrgell (neu beidio).

Diben y prosiect yw ceisio meithrin dealltwriaeth o’r gwahanol ffyrdd y mae ymchwilwyr yn gweithio a thrwy hynny datblygu gwerthfawrogiad o’u safbwyntiau unigryw. Trwy gasglu barn ymchwilwyr o ddisgyblaethau amrywiol, ar wahanol gyfnodau yn eu gyrfaoedd, gobeithiaf y gellir cael darlun ehangach. Bydd hyn yn galluogi i’r gwasanaethau llyfrgell uno’r arferion hynny â’r hyfforddiant a’r adnoddau perthnasol.

I gyflawni hyn rwy’n ymgymryd â chyfres o gyfweliadau byr gydag ymchwilwyr parod.  Bydd yr 11 o  gwestiynau’n cymryd tua 15-20 munud ac maent eisoes wedi datguddio llawer o bethau diddorol am y modd y mae ymchwilwyr yn gweithio. Rwy’n gobeithio gallu casglu barn gan yr holl adrannau ym Mhrifysgol Aberystwyth er mwyn i’r disgyblaethau gwahanol gael eu cynrychioli’n gyfartal.

Os hoffai rhywun drafod hyn ymhellach, neu drefnu amser ar gyfer y cyfweliad, cysylltwch â mi ar dls3@aber.ac.uk neu â’m Rheolwr, Lillian Stevenson ar lis@aber.ac.uk .

Wednesday, 27 November 2013

Ganolfan Uwchraddedigion Penglais


Uwchraddedigion - ydych chi’n gwybod am Ganolfan Uwchraddedigion Penglais yn Adeilad Llandinam, Campws Penglais? Mae’n rhan o fuddsoddiad parhaus y Brifysgol mewn adnoddau penodol i uwchraddedigion ar hyd a lled y campysau. Fe’i hagorwyd ym mis Hydref 2013, ac mae’r adnodd hynod safonol hwn yn darparu mannau astudio tawel ar gynllun agored neu mewn ciwbiclau preifat, peiriant argraffu canolog at ddefnydd uwchraddedigion, loceri personol, ystafell seminar gydag adnoddau arddangos gweledol, lolfa gymdeithasu a chegin.

Gan eich bod wedi’ch cofrestru yn fyfyriwr uwchraddedig, mae gennych hawl i ddefnyddio’r adnodd hwn. Cewch fynediad trwy ddefnyddio’ch Cerdyn Aber wrth y fynedfa. Gobeithio y bydd yr adnodd astudio rhagorol hwn yn gwella amodau eich astudio yn Aberystwyth.

Thursday, 21 November 2013

Agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan

Mae diweddariad gan Lillian Stevenson, Rheolwr Gwasanaethau Academaidd a Llyfrgellydd y Gyfraith.



Teithiau o amgylch Llyfrgell Thomas Parry ac arddangosfeydd o lyfrau cyfreithiol prin o Lyfrgell y Brifysgol fel rhan o agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan ar 20 Tachwedd 2013

Roedd hi’n bleser mawr cyfarfod â’r Arglwydd Elystan Morgan, cyn-fyfyrwyr, cyfreithwyr lleol, aelodau o’r Senedd a llawer o bobl eraill yn agoriad swyddogol Adeilad Elystan Morgan, cartref newydd Adran y Gyfraith a Throseddeg yn Llanbadarn.

Bracton De Legibus 1569 – un o’r llyfrau cyfreithiol prin o Lyfrgell y Brifysgol yn cael ei arddangos ar gyfer seremoni agoriadol swyddogol Adeilad Elystan Morgan.

Bu’n gyfle perffaith i ddangos Llyfrgell Thomas Parry i’n gwestai, sydd ar bwys Adeilad Elystan Morgan. Mae Llyfrgell Thomas Parry yn cynnwys casgliadau'r gyfraith a throseddeg o hen Lyfrgell y Gyfraith, ac mae’n cynnwys ystafelloedd astudio grŵp, ystafell hyfforddi, ystafell gyfrifiadura ac, wrth gwrs, llyfrgell a chymorth TG wrth law.

Wednesday, 20 November 2013

Llên-ladrad Erbyn Ymarfer Academaidd Da

Isod gallwch weld y fideo o sgwrs bymtheng munud o hyd a draddodwyd i israddedigion gan Karl Drinkwater, 10 Tachwedd 2013. Mae’n cwmpasu hanfodion llên-ladrad a sut i’w osgoi drwy fabwysiadu arfer academaidd da.

Wednesday, 13 November 2013

Gweithdy FAME

Ystafell Hyfforddi Thomas Parry Llyfrgell
Dydd Mercher 27 Tachwedd, 2013
1.30 - 2:30pm

"Mae FAME yn cynnwys gwybodaeth ariannol cynhwysfawr ar gwmnïau gweithredol ac anweithredol o’r Iwerddon a’r DU. Mae'r opsiynau chwilio arbenigol ar FAME yn rhoi mynediad i dros 300 o feini prawf chwilio, rhesymeg Boole ac opsiynau eraill sy'n cynnig hyblygrwydd wrth ymchwilio i gwmnïau a diwydiannau o’r DU a’r Iwerddon "

https://fame.bvdinfo.com/home.serv?product=fameneo&loginfromcontext=ipaddress  

  • Gwahoddiad agored i holl staff a myfyrwyr sydd â diddordeb.
  • Darperir hyfforddiant gan Christina Nobbs o Bureau Van Dijk (cyflenwr FAME)
  • Enghreifftiau o sut y defnyddir FAME mewn Prifysgolion eraill
  • Galwch draw gyda’ch cwestiynau/ymholiadau penodol.

Wednesday, 6 November 2013