Y peth cyntaf i’w wneud yw Mewngofnodi eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair Aber. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan mai dim ond ar ôl gwneud hynny y gallwch ddefnyddio’r agweddau pellach hyn.
Yn gyntaf, gadewch i ni edrych ar e-Silff. Mae hyn yn rhoi cyfle i chi adeiladu eich casgliad personol o eitemau rydych yn eu defnyddio yn aml. Os ydych yn chwilio yn aml am yr un eitem, bydd ei ychwanegu at eich e-Sillf yn eich arbed rhag gorfod gwneud yr un chwiliad a phalu drwy’r un canlyniadau bob tro.
Chwiliwch eich eitem ac yna cliciwch ar y seren ar bwys y teitl. Bydd yn troi yn oren.
Cliciwch ar e-Silff yng nghornel dde ucha’r sgrin i weld yr eitemau rydych wedi eu cadw.
Os ydych yn defnyddio’r un geiriau drosodd a throsodd er mwyn cael rhychwant o ganlyniadau ac nid eitemau unigol, mae’n bosibl i chi gadw canlyniadau cyfan a derbyn diweddariadau pan fydd canlyniadau newydd ar gael. Gwnewch eich chwiliad fel arfer ac yna clicio ar Cadw ymholiad ar waelod chwith y sgrin. Bydd blwch yn ymddangos gyda lle i chi roi enw eich ymholiad. Os hoffech dderbyn gwybodaeth am eitemau newydd, cliciwch ar Cadw a rhybuddio a rhoi eich cyfeiriad e-bost.
Gallwch wedyn weld yr hyn rydych wedi ei gadw drwy glicio ar e-Silff ac yna’r botwm Ymholiadau. Drwy’r ddewislen hon gallwch hefyd weld rhestr o’r geiriau a ddefnyddioch i chwilio yn ystod eich sesiwn cyfredol.
Os ydych yn chwilio am eitemau hŷn sy ddim yn cael eu defnyddio yn aml, mae’n bosibl y byddwch am wneud cais i’w cael o’r Stôr Allanol, sef storfa sy ddim ar gampws y brifysgol a dim ond staff y llyfrgell sydd â chaniatâd mynediad iddi. I wneud hyn, chwiliwch yr eitem ac yna clicio ar Canfod/Gwneud cais. Yna ar ochr dde’r teitl cliciwch ar Slip galw.
Anfonir e-bost atoch pan fydd yr eitem ar gael i chi ei chasglu. Fel arfer rydym yn ymweld â’r stôr bob bore o ddydd Llun i ddydd Gwener, felly os ydych am gael yr eitem ar yr un diwrnod anfonwch eich cais peth cyntaf!
I adnewyddu eich eitemau, ewch i Fy Nghyfrif a chlicio ar Benythyciadau ar yr ochr chwith. Os ydych am adnewyddu eitemau unigol cliciwch ar Adnewyddu ar ymyl dde’r eitemau hynny. Ond os ydych am adnewyddu’r cyfan, cliciwch ar Adnewyddu’r cyfan ar frig y rhestr.
Dyna ni ar y defnydd sylfaenol o Primo. Os bydd angen cymorth pellach arnoch, edrychwch ar y CHA ar ein gwefan – neu gofynnwch am gyngor wrth y ddesg wybodaeth.
Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau, neu os hoffech drefnu hyfforddiant neu sesiwn atgoffa ar gyfer adnoddau ar-lein ym Mhrifysgol Aberystwyth, cysyllwch â:
Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk
01970 621896
No comments:
Post a Comment