"I have reason to believe your wife's jelly is famous all over Wales."
Mae cardiau post glan môr prin, a ystyriwyd yn rhy anfoesgar i’w cyhoeddi ar un adeg, ymhlith 35,000 o luniau sy’n cael eu lansio ar-lein er budd addysg ac ymchwil. Mae’r lluniau wedi cael eu digideiddio a’u catalogio gan Archif Cartwnau Prydain ym Mhrifysgol Caint.
Ar gael hefyd mae cymhorthion ymchwil a dysgu ar gartwnau, gan gynnwys cyfweliadau fideo gyda chartwnyddion blaenllaw megis Stan McMurtry (Mac) o’r Daily Mail, Nicholas Garland o’r Daily Telegraph, Peter Brookes o’r Times, Dave Brown o’r Independent a Nick Newman o’r Sunday Times a Private Eye.
Dywedodd Paola Marchionni, rheolwr rhaglen JISC: "Nid ymchwilwyr yn unig sydd eisiau mynediad i’r casgliadau hyn; mae gan nifer cynyddol o athrawon a darlithwyr ddiddordeb mewn defnyddio cartwnau fel adnodd dysgu. Bydd yr offer newydd i helpu athrawon i ddefnyddio cartwnau yn eu gwersi, yn ffisegol a rhithwir, yn gwneud yr archifau hyn yn fwy gwerthfawr ar gyfer dysgu, addysgu ac ymchwil."
Mae’r cardiau glan môr ymhlith casgliad o 1,300 o gardiau a gymerwyd ymaith o dan y cyfreithiau anweddustra o 1951-61. Mae lluniau eraill sydd ar gael ar-lein am y tro cyntaf yn cynnwys cartwnau gwleidyddol Prydeinig dros y ddeng mlynedd diwethaf, cartwnau ‘poced’ diweddar gan gartwnyddion megis Matt o’r Daily Telegraph a lluniau o’r cartŵn ‘Andy Capp’ gan Reg Smythe ar gyfer y Daily Mirror.
Daw’r lluniau newydd o gasgliad mwyaf y byd o gartwnau ar sylwadau gwleidyddol a chymdeithasol a gyhoeddwyd gan y wasg Brydeinig ac a gedwir gan Archif Cartwnau Prydain. Mae’r archif bellach yn cynnig mynediad rhad ac am ddim a hawdd i dros 170,000 o gartwnau gan dros 350 o gartwnyddion, wedi’u dyddio o 1790 i 2011 ac sy’n cynnwys Prif Weinidogion o Pitt yr Ifancaf i David Cameron.
Gallwch weld y cartwnau / Cewch ragor o wybodaeth am y prosiect
No comments:
Post a Comment