Mae Prifysgol Aberystwyth yn adnabyddus am ddarparu un
o’r profiadau myfyrwyr gorau yn y DU ac mae rhan fawr o hynny’n gysylltiedig
â’r synnwyr cryf o berthyn yr ydym yn ei feithrin, nid yn unig â’r myfyrwyr a’r
staff ond gyda’r gymuned ehangach hefyd.
Roedd Cyfarfod LibTeachMeet Aber eleni, a oedd yn
canolbwyntio ar gynwysoldeb, yn gyfle da i ystyried beth yr ydym yn ei wneud yn
dda ond hefyd i ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud fel unigolion ac fel
sefydliad i fodloni anghenion amrywiol ein defnyddwyr yn well a gwneud y
llyfrgell mor gynhwysol â phosibl i bawb.
Gwnaethom drefnu deg o gyflwyniadau a oedd yn ymchwilio i
elfennau gwahanol yn ymwneud â chynwysoldeb – bodloni gofynion myfyrwyr
rhyngwladol neu fyfyrwyr dwyieithog, cefnogi’r rhai sydd â nam golwg neu’r rhai
sydd ag atal dweud neu feithrin cynwysoldeb drwy annog myfyrwyr i ddarllen.
Roedd y digwyddiad ei hun yn adlewyrchu’r pwnc a
drafodwyd. Roedd y siaradwyr yn dod o bedwar sefydliad gwahanol – Prifysgol Aberystwyth,
Prifysgol Caerlŷr, Sheffield Hallam Prifysgol a Phrifysgol Abertawe. Hefyd, roedd
cynrychiolwyr o dair adran wahanol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn bresennol – Canolfan
Myfyrwyr Rhyngwladol, Cymorth i Fyfyrwyr, a’r Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd yr
awyrgylch yn anffurfiol a hynaws, gwnaethom drafod syniadau’n agored, gofyn
cwestiynau a mynegi gwerthfawrogiad am brofiadau a rennir.
Dechreuodd y diwrnod gyda chyflwyniad gan y llyfrgellydd
pwnc, Lloyd Roderick, am ei brofiad o ddysgu llythrennedd gwybodaeth yn
ddwyieithog. Rhannodd rai adnoddau
defnyddiol megis yr Esboniadur a Gwerddon ar gyfer cynorthwyo myfyrwyr sy’n
astudio yn Gymraeg.
Dilynwyd cyflwyniad Lloyd
gan Yvonne Rinkart o’r Ganolfan Myfyrwyr Rhyngwladol a gyflwynodd
ddarganfyddiadau astudiaeth fer a oedd yn ymchwilio i ddefnydd myfyrwyr sylfaen
rhyngwladol o’r llyfrgell. Un o’r pwyntiau a godwyd gan Yvonne oedd bod
myfyrwyr rhyngwladol yn fwy tueddol o gael ‘pryder llyfrgell’ – sef y teimlad o
fod wedi’u drysu a’u llethu gan y llyfrgelloedd.
Roedd y
cyflwyniad nesaf gan John Harrington a
Diane Jones, siaradwyr o’r Ganolfan Cymorth i Fyfyrwyr, yn rhoi trosolwg da i
ni o’r gwasanaethau anabledd y maent yn eu darparu ynghyd ag ystadegau ar gyfer
Prifysgol Aberystwyth, a gwnaethant egluro gwir ystyr cynhwysiad.
Cawsom gyfle hefyd i edrych
ar gynwysoldeb o safbwynt y myfyriwr. Siaradodd myfyrwraig a raddiodd yn
ddiweddar o PA, Cerys Davies, am ei phrofiad o ddefnyddio’r llyfrgell fel
myfyrwraig oedd â nam golwg. Gwnaeth y sgwrs ysbrydoli ton o sylwadau a
chwestiynau cadarnhaol. Ymhlith nifer o bwyntiau gwerthfawr eraill, siaradodd Cerys
am yr anhawster yr oedd hi’n ei gael i ddod o hyd i ddeunyddiau darllen hygyrch.
Siaradwyr gwadd cynta’r dydd
oedd Harinder Matharu ac Adam Smith a oedd wedi ymuno â ni o Brifysgol Caerlŷr. Rhoesant drosolwg i ni o’r ddwy fenter sy’n cyfrannu
at amgylchedd cynhwysol eu prifysgol – ‘Read at Leicester’ ac ‘Unearthing
Histories’. Roedd cryfhau synnwyr o berthyn grwpiau lleiafrifol drwy ymchwilio
i’w hanes yn archifau’r brifysgol yn syniad cwbl ysbrydoledig.
Siaradodd un o aelodau o
staff y Ddesg Gymorth TG – Alice Farnworth, am fanteision mewnosod hyfforddiant
meddalwedd DSA o fewn ein gwasanaeth llyfrgell. Cyflwynodd amrywiaeth o offer
cynorthwyol i ni, ac mae rhai ohonynt megis Read&Write neu Inspiration ar
gael ar gyfrifiaduron cyhoeddus yn Aber.
Nesaf, dywedodd Philippa Price, sydd
ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfrgellydd Cymreig y flwyddyn, wrthym am y Grŵp Gwasanaeth Cynhwysol sydd wedi’i sefydlu ym Mhrifysgol
Abertawe. Siaradodd Philippa am amrywiaeth eang o fentrau y mae’r Grŵp yn eu trefnu a’u hyrwyddo, megis creu rhestrau darllen
argymelledig ar gyfer y gymuned LGBT neu wneud pecynnau urddas ar gyfer menywod
digartref.
Siaradodd Hannah Dee, darlithydd
o’r Adran Gyfrifiadureg â ni am y syniad o wella dull ysgrifennu’r myfyrwyr a’u
gallu i ddarllen trwy drefnu clwb llyfrau ffuglen wyddonol i fyfyrwyr a staff
o’i hadran. Gwnaeth Hannah ein cyflwyno hefyd i rai llyfrau diddorol, ac rydym
yn ddiolchgar iawn iddi.
Gwnaeth siaradwr gwadd arall,
sef Paul Conway o Brifysgol Sheffield Hallam, drafod templedi hygyrch ar
gyfer cyflwyniadau a thaflenni ac awgrymiadau eraill ar fod yn gynhwysol yn y
dosbarth. Rhoddodd Kate Wright o Grŵp E-ddysgu Prifysgol Aberystwyth
gyflwyniad byr ar gefnogi defnyddwyr sydd ag atal dweud. Gwnaeth Kate rai
pwyntiau diddorol gan gynnwys nad yw atal dweud yn cael ei weld fel anabledd, er
ei fod wedi’i ddosbarthu fel anabledd. Trafododd hefyd yr ystrydebau ynghylch
atal dweud.
Fel y tri cyfarfod LibTeachMeet diwethaf, roedd hwn yn
fforwm arbennig i fyfyrio ar ein harferion presennol ac i gael syniadau newydd
er mwyn parhau i adeiladu ar ein henw da o ran cynwysoldeb mewn amgylchedd
amrywiol sy’n newid yn gyflym. Cawsom adborth cadarnhaol gan siaradwyr a
mynychwyr a ddisgrifiodd y rhaglen fel un ddiddorol, amrywiol, addysgiadol ac
un sy’n pryfocio’r meddwl. Rydym ni’n gwerthfawrogi presenoldeb pawb a ymunodd â ni a gobeithio y bydd yn
ysbrydoli syniadau da a fydd yn ein cynorthwyo wrth geisio cynyddu
ymwybyddiaeth a hygyrchedd o ran adnoddau’r llyfrgell a’r gwasanaethau a
gynigir yma.