Dyma neges gynnar i’ch atgoffa i
ddiweddaru eich rhestrau darllen Aspire ac i
lunio unrhyw restrau newydd sydd eu hangen ar gyfer y flwyddyn academaidd a ddaw.
Y dyddiad cau ar gyfer modiwlau a ddysgir yn Semester 1 (neu a ddysgir dros y ddwy semester) yw: 31 Gorffennaf (mis yn hwyrach na’r llynedd).
Y dyddiad cau ar gyfer modiwlau dysgu o bell yw: 30 Mehefin
Er gwybodaeth, mae’r dyddiad cau ar gyfer Semester 2 yn aros yr un fath, sef 30 Tachwedd.
Cofiwch: mae’n rhaid i chi
ychwanegu nodyn i'r llyfrgell yn dweud “Digideiddiwch os gwelwch yn dda” ar gyfer unrhyw benodau ac erthyglau sydd angen eu digideiddio, hyd yn oed os ydynt wedi cael eu digideiddio yn y gorffennol, neu ni fyddant yn cael eu digideiddio ar gyfer 2016-2017. Yna,
ail-gyhoeddwch eich rhestr Aspire.
Newydd: Os nad yw eich rhestr Aspire wedi cael ei (hail)gyhoeddi ar unrhyw adeg yn ystod y 52 wythnos cyn y dyddiad cau, ni fydd unrhyw geisiadau digido ar gyfer y rhestr honno yn cael eu prosesu ar gyfer 2016-2017.
Newydd: os nad oes angen rhestr ddarllen ar eich modiwl e.e. blwyddyn ar leoliad, gallwch
nodi hynny ar Astra. Bydd hyn yn sicrhau na fydd yn cael ei gyfrif wrth i’r Gwasanaethau Gwybodaeth gasglu ystadegau am y defnydd adrannol o Aspire.
Newydd: Sut i rheoli rhestr Aspire os
yw côd y modiwl yn newid.
Os ydych wedi creu rhestr ddrafft yn Aspire ac yn methu â’i chysylltu â’r hierarchaeth, neu os hoffech gael hyfforddiant neu gwrs gloywi Aspire , neu os oes gennych gwestiwn ynglŷn â’r blog hwn: cysylltwch â’r
Llyfrgellwyr Gwasanaethau Academaidd: 01970621896
acastaff@aber.ac.uk