Mae adroddiad yr OECD ym mis Hydref 2015, “
Making Open Science a Reality", yn adolygu’r cynnydd sydd wedi’i wneud i sicrhau bod canlyniadau papurau sy’n deillio o ymchwil sydd wedi’i gyllido’n gyhoeddus a’r data ymchwil cysylltiedig ar gael drwy Fynediad Agored, gan edrych ar y rhesymwaith y tu ôl i fynediad agored a’r effaith mae polisïau mynediad agored wedi’i gael hyd yma, y rhwystrau cyfreithiol at gynnydd ac adolygiad o’r actorion allweddol yn y maes.
Y prif gasgliadau yw:
•
Bod Gwyddoniaeth Agored yn fodd i gefnogi gwyddoniaeth o ansawdd well, cynyddu cydweithio, gwell ymgysylltu rhwng ymchwil a chymdeithas
•
Y bydd Gwyddoniaeth Agored yn arwain at effaith gymdeithasol ac economaidd uwch i ymchwil cyhoeddus.
•
Bod angen gwell trefniadau i hyrwyddo arferion rhannu data rhwng ymchwilwyr
Steve Smith
Grwp Cysylltiadau Academaidd
Llyfrgell Hugh Owen
17 Tachwedd 2015
No comments:
Post a Comment