Wrth ddiweddaru rhestrau Aspire ar gyfer 2016-2017 dylai’r cydlynwyr ychwanegu’r Nodyn i'r Llyfrgell "Digideiddiwch os gwelwch yn dda" ar gyfer yr holl bennodau ac erthyglau ar restrau darllen Aspire yr hoffent i’r llyfrgell eu digideiddio cyn eu hailgyhoeddi.
Ar ôl gwrando ar adborth, gwnaed y newid hwn i sicrhau bod y penodau a’r erthyglau, a ystyrir y rhai pwysicaf ar gyfer y modiwl gan y cydlynydd, yn cael eu digideiddio mewn da bryd i’w dysgu. Fel arfer, bydd staff y llyfrgell yn cysylltu â chi os nad oes modd digideiddio’r deunydd e.e. am resymau hawlfraint.
Bydd staff y Llyfrgell yn digideiddio yn unol â’r canllawiau blaenorol tan y dyddiad cau ar gyfer rhestrau darllen Aspire Semester Dau, 30 Tachwedd 2015. Nid yw’r Gwasanaethau Gwybodaeth yn gwarantu y bydd unrhyw beth a ychwanegir at restrau Aspire Semester Dau (neu at restrau modiwlau a ddysgir dros y ddau semester) ar ôl 30 Tachwedd ar gael i’w dysgu yn Semester Dau.
Os ydych yn gydlynydd modiwl dysgu o bell neu fodiwl Semester Tri 2015-2016, dechreuwch ychwanegu Nodiadau i’r Llyfrgell at eich rhestrau darllen Aspire cyn gynted â phosibl os gwelwch yn dda.
Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynau ynglŷn â hyn.Efallai bydd y dolenni isod o ddefnydd:
Os gwelwch yn dda cysylltwch â’ch llyfrgellydd pwnc neu’r tîm Gwasanaethau Academaidd
acastaff@aber.ac.uk 01970621896 os ydych am hyfforddiant neu sesiwn ddiweddaru. Rydym yn hapus i ymweld â chi ar adeg a lle sy’n gyfleus i chi.