Wrth i’r byd ddathlu bywyd a choffau marwolaeth un o
un o gewri hanes , Tata Nelson “Madiba” Mandela, mae’n werth atgoffa ein darllenwyr sut yr ysbrydolodd cerddoriaeth
un o feibion Cymru Mandela a mudiad rhyddid De Affrica. Cyfansoddodd Dr Joseph Parry, athro cerddoriaeth cyntaf Prifysgol Aberystwyth, yr emyn dôn “
Aberystwyth” yn 1879. Hwn oedd yr emyn a ysbrydolodd Enoch Sontoga, athro Methodistaidd, i gyfansoddi “
Nkosi Sikelel iAfrika”” (Arglwydd bendithia Affrica), i dôn Joseph Parry ym 1897. Yn ddiweddarach daeth “Nkosi Sikelel iAfrika” yn symbol o undod Affricanaidd ac yn anthemau cenedlaethol i wledydd Dde Affrica, Zambia, Tanzania, Namibia a Zimbabwe.
Enwyd Neuadd Joseph Parry, ar bwys Yr Hen Goleg, ar ôl y cyfansoddwr a cheir rhai o’i weithiau yn y Casgliad Celtaidd yn Llyfrgell Hugh Owen.
--
Sahm Nikoi.