Thursday, 19 July 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #6

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Modern, a Theatr, Ffilm a Theledu.

Joy Cadwallader

Joy Cadwallader ydw i, bues i’n fonitor yn llyfrgell yr ysgol, adeiladwr catalog llyfrgell ar-lein yn fy 20au, ymgynghorydd ar ddesg gymorth TG mewn llyfrgell yn fy 30au ac erbyn hyn rwy’n llyfrgellydd dysgu ac addysgu yn fy 40au. Mae’r llyfrau yn fy nilyn i o gwmpas :)

Yn y gwaith, mae gennyf ddiddordeb mewn sut y gallai llyfrgellwyr helpu myfyrwyr ar yr adegau pan ddisgwylir mwy ganddynt e.e. wrth gychwyn ar radd, dechrau traethawd hir neu wrth gychwyn ar astudiaethau uwchraddedig. Yn y flwyddyn academaidd nesaf, bwriadaf dreulio mwy o amser mewn adrannau academaidd fel y gallwch ofyn unrhyw gwestiynau imi wrth fynd heibio, ac fel y gallaf innau gael gwybod mwy am sut a phryd y gallwn ni eich helpu chi orau o safbwynt hyfforddi, adnoddau a chymorth. Yn fy amser hamdden rwy’n astudio am radd Meistr mewn Llyfrgellyddiaeth a Gwybodaeth (rhan amser drwy ddysgu o bell), gan ychwanegu rhywfaint o ddamcaniaeth at fy arsylwadau a’r adborth a gaf yn y gwaith.

Wednesday, 4 July 2012

Cwrdd â'ch Llyfrgellydd Gwasanaethau Academaidd #5

Eleni bydd cyfres o erthyglau yn ymddangos ar ein gwefan yn cyflwyno aelodau o dîm y Gwasanaethau Academaidd. Y tro hwn, mae'n y llyfrgellydd Gyfrifiadureg, ac Mathemateg a Ffiseg.

Sahm Nikoi
Cefais fy ngeni mewn rhan o’r byd sy’n cael ei gysylltu â ‘newyn llyfrau’. Yn y gorllewin mae’r syniad o lyfrgell yn creu delwedd benodol; mae’r ddelwedd hon yn wahanol iawn mewn nifer o rannau o Affrica heddiw, lle mae llyfrgelloedd yn cael eu disgrifio’n aml yn nhermau ‘canolfan adnoddau gymunedol’, ‘llyfrgell wledig’, ‘llyfrgell y ces’,  ‘llyfrgell droednoeth’, ‘llyfrgell y camel’ a ‘llyfrgell y cartref’ i enwi dim ond rhai enghreifftiau. Wedi’r chweched dosbarth, gwnes fy Ngwasanaeth Cenedlaethol mewn cymuned ar y Cape Coast lle roeddwn yn hyrwyddo  sgiliau darllen mewn ysgolion cynradd gyda Bwrdd Llyfrgelloedd Ghana. Gan fod y brif lyfrgell rai cilomedrau i ffwrdd, fe’m gorfodwyd i ddyfeisio ffyrdd arloesol o gynnig gwasanaethau llyfrgell i’r gymuned, a’r ferfa oedd fy ateb, profiad a esgorodd ar yrfa oes mewn Gwasanaeth Llyfrgell a Gwybodaeth. Oherwydd hyn hoffaf ddisgrifio fy hun fel y llyfrgellydd berfa (gweler t.184), a dyma oedd dechrau gyrfa mewn Gwasanaethau Gwybodaeth a Llyfrgell.