Mae fideos yn dangos sut mae JISC yn helpu ymchwilwyr i wneud eu gwaith yn gyflymach, yn well ac yn amgenach drwy rhithfeydd ymchwil newydd gael eu rhyddhau ar YouTube.
Mae'r fideos yn dangos prosiectau o raglen rhithfeydd ymchwil yr JISC, sy'n ceisio dod o hyd i ffyrdd o gysylltu pobl â'i gilydd a chyflymu prosesau ymchwil ar draws disgyblaethau. Maent yn cynnwys seryddiaeth, ffiseg, electroneg, cemeg ac astudio dogfennau hynafol.
Mae astudiaethau achos o'r rhaglen e-isadeiledd ar-lein erbyn hyn hefyd, yn dangos ei bod hi'n normal i ymchwilwyr ddefnyddio uwch dechnoleg ar y rhyngrwyd pan fyddant yn gweithio gyda sefydliadau eraill ac yn rhyngwladol.
No comments:
Post a Comment