Friday 30 January 2009

Prosiect Cenedlaethol Arsyllfa E-lyfrau JISC


Fel rhan o’n hymrwymiad i ddarparu’r adnoddau diweddaraf, mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth wedi ymuno â Phrosiect Cenedlaethol Arsyllfa E-lyfrau JISC - arbrawf sy’n ceisio deall sut mae e-lyfrau yn cael eu defnyddio ac arbrawf a allai helpu i ffurfio dyfodol y ddarpariaeth e-lyfrau yn y Deyrnas Unedig. Mae’r prosiect yn ymchwilio i’r canlynol:
  • effaith e-lyfrau testunau craidd ar ddysgu’r myfyrwyr;
  • sut mae myfyrwyr yn dod o hyd i’r e-lyfrau a sut maent yn eu defnyddio;
  • beth yw eu barn am yr e-lyfrau;
  • sut y gellir hyrwyddo e-lyfrau;
  • sut y gall e-lyfrau gyflawni eu potensial fel adnodd addysgol hanfodol.
Mae’r prosiect yn rhoi i’r Gwasanaethau Gwybodaeth fynediad am ddim i 36 o destunau darllen craidd a argymhellir mewn nifer o feysydd, heb unrhyw gyfyngiadau o ran nifer y defnyddwyr sy’n defnyddio’r e-lyfrau hyn ar yr un pryd. Mae’r drwydded yn caniatáu i staff a myfyrwyr gopïo, argraffu, a gludo rhannau o’r e-lyfrau e.e. i ddeunyddiau dysgu, taflenni, gwaith cwrs, cyflwyniadau a meysydd cwrs yn Blackboard.

Sut mae dod o hyd i’r e-lyfrau sydd wedi’u cynnwys yn y prosiect hwn
Arolygon
Yn gyfnewid am hyn ac yn rhan o’r prosiect, cytunodd y Llyfrgell i gynnal arolwg ymhlith y staff a’r myfyrwyr a chasglu data ansoddol am eich barn a’ch agweddau tuag at e-lyfrau. Cynhaliwyd yr arolwg cyntaf ym mis Ionawr 2008, ac mae’n debyg mai hwnnw oedd yr arolwg e-lyfrau mwyaf a gynhaliwyd erioed, gyda thros 23,000 o ymatebion gan fyfyrwyr a staff ym mhrifysgolion y Deyrnas Unedig. Roedd gwobr genedlaethol o £200 o dalebau Amazon ar gael i un ymatebwr – ac o blith yr holl brifysgolion yn y Deyrnas Unedig, ac o’r 23,000 o ymatebion, yr enillydd oedd myfyriwr o’r Adran Fathemateg yn Aberystwyth! Dyma brofi y gall llenwi arolygon llyfrgell fod yn brofiad gwerth chweil. :-)

Mae tîm y prosiect bellach yn dosbarthu holiadur ymadael i weld sut mae pethau wedi datblygu dros y flwyddyn ddiwethaf a sut mae agweddau ac ymddygiad tuag at e-lyfrau wedi newid, ac unwaith eto ceir £200 o dalebau Amazon yn wobr – a all Aberystwyth ennill eto? Gofynnwn i chi helpu’r prosiect trwy lenwi’r holiadur. Llenwi arolwg ymadael E-lyfrau

Darganfyddiadau’r prosiect hyd yma
Rydym eisoes wedi cael un adroddiad manwl ynghylch pa mor aml y mae’r e-lyfr yn cael ei ddefnyddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac roedd hi’n ddiddorol nodi bod hanner y 121 o ymatebwyr wedi defnyddio ein e-lyfrau, ac yn nhraean o’r achosion, y tiwtor oedd wedi sôn wrthynt am yr adnodd.

Mae’r gair olaf yn mynd i fyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth (daw’r sylw o’r arolwg):
"Ar hyn o bryd rwy’n fyfyriwr sy’n dysgu o bell - mae llyfrau electronig yn golygu bod gen i'r un mynediad at adnoddau gwybodaeth â myfyriwr amser-llawn. Maent yn hanfodol i’m hastudiaethau; ni fyddai modd i mi gwblhau fy aseiniadau hebddynt."

No comments: