Thursday 11 December 2008

Byddwch yn hapus... ymunwch â’ch llyfrgell!

Mae ymgyrch diweddar Dyddiau Da, a anogodd bawb i edrych o’r newydd ar eu llyfrgell, wedi gwneud 2 fyfyriwr yng Nghymru £100 yn gyfoethocach – ac roedd un ohonynt yn dod o Brifysgol Aberystwyth!

Gwirfoddolodd bron i 400 o fyfyrwyr ar draws Cymru i gymryd rhan mewn arolwg, fel rhan o’r ymgyrch, er mwyn dweud wrthym pam fod llyfrgelloedd yn eu gwneud nhw’n hapus, gan ein galluogi i greu rhestr Y Deg Ucha’ a chasgliad o straeon personol sy’n dangos yr effaith gadarnhaol mae llyfrgelloedd wedi eu cael arnynt hwy a’u hastudiaethau.



Meddai'r enillydd o Aberystwyth:
"After a lecture or when preparing for an exam, I like to retreat to the library as the environment gives me a boost to get the work done. All resources are there for me to refer to for my research like the newest books and journals, etc. The newspapers help you to keep up to date with current affairs, which is important in today’s fast moving society. It has a comfortable atmosphere as all of us students are studying for our courses. When I am at Halls, I have distractions like the TV and sleeping. The library is a haven for the production of work. Honestly, if the library was not available, I do feel that it would be more harder for me to study. I do take advantage of the facilities such as photocopying and computer access."
Mae’r straeon a gasglwyd fel rhan o’r arolwg hwn yn tynnu sylw at sut gall llyfrgelloedd wneud gwahaniaeth go-iawn i’ch astudiaethau - gydag arbed arian, helpu gydag ymchwil, a chreu amgylchedd heddychlon wedi profi i fod yn ffactorau pwysig yn yr arolwg.
Y 10 prif reswm pam fod llyfrgelloedd yn gwneud myfyrwyr yn hapus:

1 Cymorth gydag ymchwil 83%
2 Syrffio’r we 70%
3 Heddwch a thawelwch 68%
4 Rhywle i astudio 67%
5 Arbed arian i mi 62%
6 Dysgu sgiliau newydd 51%
=7 E-bostio fy ffrindiau 34%
=7 Fy helpu i basio arholiadau 34%
=8 Atebion cyflym i’m cwestiynau 30%
=8 Yn darparu ar gyfer fy anghenion penodol 30%
9 Arbed amser i mi 29%
10 Rhywle i ymlacio 28%
Ac yn ôl Dr Richard Tunney o Brifysgol Nottingham:
“Ymddengys mai treulio amser yn ymlacio yw’r gyfrinach i gael bywyd hapus. Pleserau sydd ar gael am ddim yw’r pethau sy’n gwneud y gwahaniaeth – hyd yn oed pan fedrwch chi fforddio beth bynnag yr hoffech ei gael.”
Mae’n debyg bod llyfrgelloedd wir yn cynnig y pethau sy’n medru eich gwneud chi’n hapus, felly!

No comments: