Mae prifysgolion eraill wedi bod yn darganfod manteision y gwasanaeth rhestrau darllen ar-lein, Talis Aspire
- Yn y fideo hwn mae staff o Brifysgol Lerpwl yn son am eu profiadau o ddefnyddio Talis Aspire
- Yn y fideo hwn mae myfyrwyr o Brifysgol Nottingham Trent yn rhannu eu hargraffiadau cyntaf o Talis Aspire
Rhagor o newyddion ynghylch rhoi TALIS Aspire ar waith yn Aberystwyth
- Bydd y system yn cael ei chyflwyno’n ffurfiol yng Nghynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Aberystwyth 16-18 Medi; beth am ddod i un o weithdai’r gynhadledd a rhoi cynnig ar Talis Aspire?
- Bydd hyfforddiant ar gael i staff academaidd a gweinyddol yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry yn ystod mis Hydref a mis Tachwedd, neu gellir trefnu hyfforddiant mewn lleoliad ac ar amser sy’n gyfleus i chi
- Bydd y rhestrau darllen cyntaf yn cael eu rhoi ar y system ym mis Hydref/ Tachwedd ar gyfer modiwlau 2il Semester 2014/2015 i ganiatau amser i brynu unrhyw eitemau sydd ddim ar gael yn y llyfrgelloedd neu’n eletronig.
Bydd unrhyw newidiadau i’r drefn yn cael eu hychwanegu at
dudalen we’r rhestrau darllen. Mae croeso i chi gysylltu â’r llyfrgellwyr pwnc os oes gennych unrhyw gwestiynnau:
acastaff@aber.ac.uk