Mae Gwasanaethau Gwybodaeth yn treialu gwasanaeth argymhellwr erthyglau newydd ‘bX Recommender’ yn rhad ac am ddim. Mae’r gwasanaeth hwn yn debyg iawn i’r hyn a gynigir gan Amazon “mae’r cwsmeriaid sydd wedi prynu hwn hefyd wedi prynu…..” heblaw bod hwn yn argymell erthyglau cyfnodolion. Mae’n cynnig argymhellion sydd wedi eu seilio ar ddefnydd go iawn o ddata, wedi eu crynhoi yn rhyngwladol ac yn cyfeirio at erthyglau ysgolheigaidd perthnasol.
Gybodaeth bellach. Os hoffech gynnig adborth ar y gwasanaeth hwn e-bostiwch
ujh@aber.ac.uk.
No comments:
Post a Comment