"Roeddwn i’n meddwl fod Primo’n dda i ddim, tan i mi sylweddoli mai fi oedd yn ei ddefnyddio’n anghywir..."
Eleni mae’r llyfrgellwyr pwnc wedi bod yn cynnal sesiynau galw heibio ac yn dod รข chymorth gyda sgiliau gwybodaeth allan o’r llyfrgell ac i mewn i’r adrannau. Cynhelir y sesiynau hyn yn rheolaidd ac mae modd i chi ddod draw gydag unrhyw gwestiwn am adnoddau’r llyfrgell, am gynnal chwiliadau am lenyddiaeth, ac am gyfeirnodi a defnyddio Primo ac ati. Nid oes angen archebu lle, dim ond galw heibio! Cynhelir y sesiynau’n wythnosol tan ddiwedd y tymor oni nodir unrhywbeth yn wahanol, ac mae rhai newydd ar gael, felly tarwch olwg ar y tabl isod.